Dogfen 2 - CyflwyniadI basio'r Sgiliau Hanfodol lefel 2 a 3 mae rhaid i chi wneud o leiaf 2 dogfen wahanol, a'r gwaith paratoi o amgylch y ddogfen hon.
Rydych wedi cyflwyno pamffled hysbysebu eich elusen (Dogfen 1). Nawr mae rhaid i chi greu cyflwyniad ar bwnc arall. Gwybodaeth Cymhwyso Rhif Byddwch wedi gwneud ymchwil yn eich gwersi cymhwyso rhif. Y Cyflwyniad Rhaid i chi droi'r wybodaeth yma i mewn i gyflwyniad. Dylech greu sleidiau addas i esbonio eich ymchwil. Pwrpas yr ymchwil, Canlyniadau'r ymchwil (graffiau), unrhyw ganlyniadau diddorol, casgliad ayb Rhaid i'r cyflwyniad edrych yn dda a chynnwys agweddau TGCh addas e.e animeiddio, delweddau, trawsnewidiadau, Graffiau a Thablau Bydd rhaid i chi nodi eich canlyniadau yn Excel a chreu graffiau addas. Bydd yna angen rhoi'r wybodaeth yma i mewn i'ch cyflwyniad Tystiolaeth Mae'n bosib ni fydd rhaid ysgrifennu llawer o wybodaeth ar gyfer y dasg cyflwyniad gan eich bod wedi gwneud y gwaith ar gyfer yr ymchwiliad. Beth sydd yn HANFODOL yw bod rhaid dangos TYSTIOLAETH ohonoch chi yn dangos y sgiliau TGCh (Sgrin luniau) |
CamauDilynwch yr un patrwm a wnaethoch i gwblhau dogfen 1.
1. Ysgrifennu ambell i baragraff sy'n disgrifio eich dealltwriaeth chi o'r dasg 2. Creu Cynllun neu Log fel Tabl yn Word (Sut ydych yn mynd i gwblhau'r dasg) 3. Cynllunio'r cyflwyniad ar bapur (beth sydd yn mynd ar bob sleid) 4. Ymchwilio i luniau addas o'r we (defnyddio AND, OR ayb) (sgrin lun) 5. Defnyddio Excel i greu tablau a graffiau addas (sgrin luniau) 6. Ysgrifennu pwyntiau bwled addas i gyfoethogi eich cyflwyniad 7. Drafftio'r cyflwyniad gan gynnwys graffiau a thablau addas (Cadw yn glir fel "Drafft 1) Cofiwch i ychwanegu pwyntiau bwled, lluniau addas, graffiau, tablau, Word Art, Hypeddoleni ayb. 8. Gofyn am adborth ffrind (tystiolaeth ar bapur neu fel e-bost) 9. Gwneud fersiwn terfynol o'r cyflwyniad gyda sleid casgliad o'ch dealltwriaeth/barn chi o'r pwnc rydych wedi ymchwilio 10. Gwerthusiad o'r dasg Dyddiad Cyflwyno 20/2/14 Bydd Mr Owens / Mr James a Mr Richardson ar gael yn ystafell 47/48 bob amser cinio neu os hoffwch gymorth gallwch ddanfon e-bost i [email protected] |